Yn dathlu Etifeddiaeth Y Gymraeg
Cronfa
Heritage Lottery Fund
Dreftadaeth y Loteri
Cymraeg Morgannwg
Merthyr 01685 72 21 76 www.merthyrtudful.org | Rhondda Cynon Taf 01443 22 63 86 www.menteriaith.org
Caerffili 01443 82 09 13 www.mentercaerffili.org | Caerdydd 029 20 56 56 58 www.mentercaerdydd.org
Abertawe 01792 46 09 06 www.menterabertawe.org | Castell Nedd Port Talbot 01792 86 49 49 www.micnpt.org
Bro Ogwr 01656 73 22 00 www.menterbroogwr.org | Bro Morgannwg 01446 72 06 00 www.menteryfro.com
Celebrating Welsh Heritage
Bro Ogwr
Gweithio gyda grwp o ddysgwyr a Chymry
Cymraeg yr ardal er mwyn cynhyrchu cardiau
addysg ar gyfer yr ysgolion lleol.
Bydd gwybodaeth am chwedlau, traddodiadau a
hanes yr ardal yn medru cael ei llwytho lawr o
safle we'r prosiect.
Caerffili
Creu straeon digidol gan bobl leol i gofnodi eu
hacenion lleol unigryw ac i glywed am eu
profiadau yn Gymry Cymraeg neu'n ddysgwyr yr
iaith yng Nghaerffili
Abertawe
Casglu gwybodaeth am hanes y Gymraeg yn
Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf, yn
benodol ar Eisteddfodau ac Addysg Gymraeg yn
Abertawe. Trosglwyddo'r wybodaeth yn eang
ymysg dysgwyr, y di-Gymraeg, pobl ifanc a
Chymry Cymraeg yn arwain at
Eisteddfod Abertawe.
Y Fro
Trefnu noson y Fari Lwyd i godi ymwybyddiaeth
o'r traddodiad ymysg dysgwyr Cymraeg yr ardal.
Trefnu gweithdai Fari Lwyd yn ystod y Sadyrnau
Siarad lleol.
Rhondda Cynon Taf
Codi ymwybyddiaeth pobl leol o'r ffaith bod y
bont ym Mhontypridd yn 250 mlwydd oed a'r
Anthem Genedlaethol yn 150 mlwydd oed yn
2006. Datblygu gweithgareddau yn seiliedig ar y
2 ddigwyddiad hanesyddol i godi eu balchder
nhw o fod yn Gymry Cymraeg a chynyddu eu
hawydd i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.
Caerdydd
Cyfweld ag aelodau o Aelwyd Hamdden
Caerdydd, gan gofnodi eu hatgofion nhw o dyfu
gyda'r iaith a'u profiadau o gymdeithasu drwy'r
Gymraeg yn y ddinas dros yr hanner canrif
ddiwethaf. (Hefyd datblygu portffolio o'u lluniau
personol fel cofnod i gyd-fynd ? straeon.)
Castell-nedd Port Talbot
Casglu gwybodaeth am bapurau bro lleol sef
Clecs y Cwm a'r Dre, Llais, Glo M?a Negesydd
a'i gyflwyno ar ffurf Power Point i bobl leol y sir.
Gan weithio'n benodol gyda phobl ifanc o Ysgol
Gyfun Ystalyfera, bydd y prosiect yn helpu creu
tudalen 'Ieuenctid' ar gyfer Negesydd.
Merthyr
Cynhyrchu arddangosfa er mwyn cofnodi hanes
Capel Soar gan gynnwys llinell amser i gymharu
datblygiadau'r Capel â Chymreictod yr ardal. Fe
fydd y gwaith yn rhan o arddangosfa barhaol yn y
Ganolfan Gymraeg ar ôl sefydlu Theatr
Gymunedol yn y Capel cyfagos.