Cymraeg Morgannwg
Map
d



Newyddion

Arddangosfa Arbennig

Cynhaliwyd arddangosfa y prosiect ar faes Eisteddfod Abertawe 5 - 12 Awst 2006.

 

Stondin Eisteddfod 2006

EisteddfodEisteddfod

taflen

Taflen y Prosiect >> Taflen

Amgueddfa Diwydiant a Môr
Arddangosfa Prosiect Treftadaeth Mentrau Iaith Morgannwg yn Amgueddfa Diwydiant a Môr, Abertawe.
Cyfle gwych i flasu'r cyfoeth o ddeunydd ar ffurf DVD, lluniau a gwefan y prosiect.

O ddydd Mawrth 16.01.07 hyd at dydd Gwener 9.02.07

geraint Morgan

Geraint Morgan

Geraint Morgan yn sôn am ddatblygiad y prosiect ar Wedi 3 ym mis Tachwedd 2006
Amgueddfa Abertawe Yr Arddangosfa yn Amgueddfa Abertawe Rhagfyr 2006

 

Cyhoeddir Bwletinau cyson yn sôn am ddatblygiad y prosiect

Rhagfyr 2006

Awst 2006

Gorffennaf 2006

Mehefin 2006

Mai 2006

Ebrill 2006

Mawrth 2006

Chwefror 2006

Ionawr 2006

Rhagfyr 2005

Tachwedd 2005

Hydref 2005

Medi 2005

Awst 2005

Gorfennaf 2005

Mehefin 2005

Mai 2005

Ebrill 2005

Clochdar Tachwedd 2006

Wilia Tachwedd 2006

 

Swyddog Prosiect

23/05/2005
Mae’r swydd newydd hon yn gyfle gwych i fi gael cydweithio â grwpiau cymunedol o fewn Morgannwg yn cynnwys dysgwyr a siaradwyr Cymraeg.

Eleri Griffiths
Eleri Griffiths

Gyda’n gilydd gallwn ddatblygu prosiectau creadigol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn eich ardal chi. Bydd cyfle i wneud gweithdai Celf, Straeon Digidol a Gweithdai ymchwil i gyd o dan arweiniad pobl broffesiynol fel Dr Beth Thomas o Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Wedi gorffen y prosiectau mi fydd y gwaith yn cael ei arddangos mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd lleol a.y.b. ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe 2006.

Mi fyddaf yn gyfrifol am wneud prosiectau gyda phob un o’r wyth Menter Iaith ym Morgannwg. Y Mentrau sy’n cael eu cynnwys yw:
Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Bro Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Caerdydd a’r Fro.

Rydw i wedi cysylltu gyda phob un o’r mentrau er mwyn trefnu cyfarfod i drafod syniadau am brosiectau treftadaeth yn eu hardal nhw.

 

Eisteddfod yr Urdd
27/05/2005
Bydd Cymraeg Morgannwg yn Eisteddfod yr Urdd, caerdydd.
Fel rhan o brosiect Cymraeg Morgannwg bydd y Swyddog Prosiect yn holi pobl sydd wedi eu geni a'u magu ym Morgannwg am eu hatgofion.




 

 

 
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
gweHendre
Cronfa Dreftadaeth y Loteri